top of page

AMDANOM NI

Mae Theatr Illumine yn gydweithrediad rhwng y dramodydd o Gaerdydd, Lisa Parry, a'r cyfarwyddwr arobryn, Zoë Waterman. Rydym ni'n creu cynyrchiadau gyda sgriptiau newydd yn greiddiol iddynt, theatr sy'n datgelu straeon sydd o’r golwg yng ngolwg pawb - straeon o'n cwmpas yr ydym ni'n rhy brysur i sylwi arnyn nhw. Ein nod yw annog trafodaeth, cynnig theatr i bawb ac estyn allan at gynulleidfaoedd sy'n cael eu hanwybyddu gyda'n gwaith. 

 

Sefydlwyd Illumine yn gynnar yn 2016 ar ôl mwy na degawd o weithio gyda'n gilydd yn ysbeidiol ar amrywiol brosiectau, yn enwedig yn Theatre503, yr Arcola ac Arch468.

2023-LisaParry.png

Lisa Parry

Cafodd drama Lisa, THE MERTHYR STIGMATIST, ei gynhyrchu ar y cyd gan Theatr y Sherman a Theatre Uncut yn ystod Gwanwyn 2021 a’i ryddhau i’w lawr lwytho’n ddigidol, gan ennill adolygiadau pedair a phum seren. Cyhoeddir y ddrama gan Nick Hern Books. Defnyddiodd The Stage y geiriau “searing”, a “stylish, tense [and] taut” i ddisgrifio’r ddrama, a dywedodd The Guardian ei fod yn “deeply moving” gan ei alw’n “theatrical magic”. Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ysgrifennu Drama Wleidyddol gyntaf erioed Theatre Uncut yn 2019, gwobr a gefnogwyd gan Theatr y Sherman, Traverse a Young Vic. 

 

Bu Lisa yn awdur preswyl yn Theatr Clwyd yn 2020 ac mae ei gwaith wedi cael ei lwyfannu gan gwmnïau ysgrifennu newydd a blaenllaw yn y DU a’r UDA, gan gynnwys Dirty Protest, The Miniaturists a PopUp Theatrics. Mae ei gwaith wedi cael ei gynhyrchu yn: Y Barbican, The Other Room, Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Theatre 503, The Arcola, TACT Studio (Broadway, Efrog Newydd), The Arches, Theatr Bridewell Llundain a Theatr Martin E Segal (Efrog Newydd).  

 

Mae Lisa wedi siarad ar amrywiol baneli ynghylch ffeministiaeth a theatr, yn ogystal â gwyddoniaeth a theatr, ac wedi rhoi cyflwyniad ar gyfer TEDx yng Nghaerdydd. Cyn hynny, bu'n gweithio fel newyddiadurwr ar ran teitlau rhanbarthol a chenedlaethol, a bu’n olygydd cyswllt (theatr) ar ran Cylchgrawn Bare Fiction. 

Derbyniodd Zoë Wobr Cyfarwyddwyr sy'n Dod i'r Amlwg Theatre Wimbledon Newydd 2007.Derbyniodd MFA mewn Cyfarwyddo ar gyfer y Theatr o Goleg Birkbeck. Bu’n Gyfarwyddwr Cyswllt yn Theatr New Vic yn 2018-19.

Mae ei phrofiad yn y theatr yn cynnwys: 2023 (Illumine, Chapter); INTEMPERANCE, TABLE, PLAYHOUSE CREATURES and THE KITCHEN SINK (The New Vic, Stoke-on-Trent); THE RUBENSTEIN KISS, AMY'S VIEW and AFTER MISS JULIE (Nottingham Playhouse); JACK AND THE BEANSTALK, DICK WHITTINGTON a SLEEPING BEAUTY (Theatr Clwyd); THE RISE AND FALL OF LITTLE VOICE, REMARKABLE INVISIBLE, THE VERTICAL HOUR, ENLIGHTENMENT a SHINING CITY (Theatre by the Lake, Keswick); THE BOGUS WOMAN (Theatr by the Lake, Keswick a thaith y DU); SWAN SONG: AN EVENING OF MUSIC AND SONG (The Swan, RSC); CINDERELLA, ALADDIN, SLEEPING BEAUTY and JACK AND THE BEANSTALK (Loughborough Town Hall); THE DEMAND (Shooting Fish Theatre Company); SLEEPING BEAUTY and ALADDIN (The Maltings, Berwick-Upon-Tweed); THE PROMISE (New Wimbledon Theatre Studio); A KIND OF ALASKA (Edinburgh Fringe Festival).

 

Fel Cyfarwyddwr Cyswllt: i Lucy Pitman-Wallace ar MUCH ADO ABOUT NOTHING (Malmö Stadsteater) a JOKING APART (Nottingham Playhouse, Salisbury Playhouse) ac i Giles Croft ar ALL QUIET ON THE WESTERN FRONT (taith y DU). Mae ei phrofiad fel cyfarwyddwr cynorthwyol yn cynnwys 2012-13 yn yr RSC, gan gynorthwyo Gregory Doran ar THE ORPHAN OF ZHAO.

 

2023-small7.png

Zoë Waterman

bottom of page