top of page

2023

landscape_highres_edited.jpg

Ym mis Hydref, 2018, fe wnaethom ni lwyfannu ein cynhyrchiad cyntaf - 2023 - yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.

 

⭐️⭐️⭐️⭐️ 1/2 "[a] stunning new play. I propose that it is in the running for best Welsh new play of 2018." - Get the Chance

 

⭐️⭐️⭐️⭐️ "a morality tale for the Black Mirror generation" - Buzz

 

⭐️⭐️⭐️⭐️ "one of the most interesting pieces of theatre I'd seen in a long time" - Quench

 

Mae 2023 yn adrodd hanes Mary, a anwyd o sberm a roddwyd, sy'n chwilio am Chris, y person a roddodd y sberm, gan effeithio ar ei fyd (a’i briodas â John). Fe'i datblygwyd gyda chymorth academyddion ac ymchwilwyr ym meysydd rhoi gametau a B/byddardod ac fe wnaethom ni roi capsiynau ar bob perfformiad. 

 

Roedd y cast yn cynnwys Stephanie Back fel Mary, Tom Blumberg fel John a Richard Elis fel Chris. Cynhaliwyd dwy drafodaeth ar ôl y sioe hefyd (isod). Ariannwyd y darn gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Theatr Unity ac fe'i cefnogwyd yn hael gan Chapter. 

Barbican.jpg

Cawsom wahoddiad i berfformio darn o 2023 fel rhan o Fertility Fest 2019 yn y Barbican lle bu Lisa Parry hefyd yn eistedd ar banel yn trafod y Genhedlaeth IVF.

Trafodaeth ar ôl y sioe am y ddrama a'i themâu gyda Dr Branwen Davies, Stephanie Back, Richard Elis, Lisa Parry, Zoë Waterman a Tom Blumberg. Chyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gan Rachel Jones a Liz May.

Trafodaeth ar ôl y sioe am y wyddoniaeth a'r foeseg sy'n amlwg yn y ddrama gyda Dr Lyndon Miles, Lisa Parry, Prof Jacky Boivin a Michael Carklin. Chyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gan Liz May. 

ACW_logo_CMYK_portrait.jpg
59390.104240.file.eng.National-Lottery-l
WG_logo_landscape_cmyk.jpg
Supported-by-Unity-Theatre-Trust-Web.jpg
WHITECHAPLOGO.jpg
bottom of page