top of page

DEUCE: DRAMA BODLEDIAD DDWYIEITHOG NEWYDD GAN DDYFEISWYR TREMOLO, A GYRHAEDDODD RHESTR FER GWOBRAU DRAMA SAIN Y BBC

Wedi'i chynhyrchu gan Theatr Illumine ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru a Pharc Geneteg Cymru, mae DEUCE yn ddrama bodlediad a ysgrifennwyd gan y dramodydd o Gaerdydd, Lisa Parry a'i chyfarwyddo gan Zoë Waterman, sy'n archwilio cardiomyopathi hypertroffig (HCM). Wedi ei chyfieithu gan Branwen Davies, bydd fersiwn Cymraeg a Saesneg ar gael i'w ffrydio am ddim, er mwyn sicrhau y gall ystod eang o wrandawyr gael profiad o'r cynhyrchiad pwerus hwn sy'n procio'r meddwl.

"Yn dilyn llwyddiant TREMOLO, mae Parc Geneteg Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Theatr Illumine unwaith eto i gefnogi eu cydweithrediad newydd, DEUCE, gyda Phartneriaeth Genomeg Cymru. Mae'r project cyffrous hwn yn dod â'r celfyddydau a gwyddoniaeth ynghyd fel ffordd o ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch geneteg a genomeg a'r rôl bwysig sydd ganddynt ym maes meddygaeth, iechyd ac, yn y pen draw, ym mywydau pobl." Dr Rhian Morgan, Parc Geneteg Cymru. 

 

Mae'r podlediad hanner awr o hyd yn adrodd hanes Alys, chwaraewr tenis yn ei harddegau sy'n llewygu yn ystod rownd derfynol Pencampwriaeth Iau y Merched yn Wimbledon. Wrth i swyddogion cymorth cyntaf sylweddoli ei bod hi'n profi ataliad ar y galon, mae hi'n cael ei rhuthro i'r ysbyty, lle mae hi'n gorwedd mewn coma. Yma, caiff ymweliad gan ei diweddar dad, Daf, sy'n gyn-chwaraewr tenis proffesiynol y mae Alys yn gobeithio ei efelychu.

Mae'r byd fel y mae Alys yn ei adnabod yn cael ei droi wyneb i waered pan fydd meddygon yn rhoi diagnosis iddi o cardiomyopathi hypertroffig (HCM); cyflwr lle mae wal cyhyrau'r galon yn dod yn fwy trwchus ac mae pwmpio gwaed o gwmpas y corff yn dasg anoddach. Gydag athletwyr proffesiynol enwog fel y pêl-droediwr Fabrice Muamba a'r chwaraewyr pêl-fasged Hank Gathers a Will Kimble yn adnabyddus am gael diagnosis, mae'r cyflwr wedi ymddangos yn aml mewn penawdau yn y byd go iawn oherwydd ei effaith bosibl. Nid yn unig y mae Alys yn deall y gallai ei diagnosis olygu diwedd ei gyrfa ei hun, mae hi hefyd sylweddoli y gallai'r cyflwr hwn a etifeddodd, a achoswyd gan nam yn ei genom, fod wedi achosi marwolaeth anesboniadwy ei thad.

Mae sgript Lisa, sy'n cael ei lywio gan brofiad arbenigwyr mewn geneteg a genomeg, cardiolegwyr a'r rhai sy'n byw gyda cardiomyopathi hypertroffig, yn archwilio effaith y diagnosis, sy'n newid bywyd, ar berthnasau, uchelgeisiau ac iechyd meddwl. Wrth i Alys bwyso ar ei thad am gefnogaeth wrth ddod i delerau â'r syniad o ddychwelyd at ei chorff ac i fywyd heb denis proffesiynol, mae hi'n dechrau deall bod yn rhaid iddi symud y tu hwnt i'r galar mae hi'n ei deimlo yn y pen draw, wrth lywio realiti newydd heriol.

 

Dywedodd Lisa Parry "Roedd ymchwilio i'r ddrama hon yn brofiad hynod deimladwy wrth i bobl rannu eu straeon. Mae'n teimlo'n iawn i adrodd y stori hon ar ffurf sain, sy'n ffordd bersonol iawn o adrodd straeon lle mae'r gwrandäwr yn creu'r delweddau yn ei feddwl ei hun. Rydw i wrth fy modd y bydd pobl yn gallu gwrando arni ar eu ffonau, o ble bynnag, a galla i ddim aros i ddechrau yn yr ystafell ymarfer."

"Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn falch iawn o ariannu prosiect mor arloesol gyda Theatr Illumine. Ein nod cyffredinol yw manteisio ar y cyfleoedd y mae genomeg yn eu darparu i wella gofal iechyd a lles i'n cleifion yng Nghymru. Yn dilyn llwyddiant TREMOLO, rydym yn gwybod bod y dull creadigol hwn yn helpu'r boblogaeth ehangach i ddeall perthnasedd a phwysigrwydd genomeg i unigolion a theuluoedd. Bydd hyn yn allweddol wrth i dechnoleg wella, ac wrth i ni ddeall a chymhwyso genomeg yn fwy." Michaela John, Pennaeth Rhaglenni GPW.

 

Bydd actores The Light In The Hall, Ella Peel, yn chwarae rhan Alys. Mae Ella wedi ymddangos mewn ystod o gynyrchiadau ar y sgrin ac ar y llwyfan ac mae ei rhestr gydnabyddiaeth yn cynnwys gwaith gyda Theatr Genedlaethol Cymru, HBO, BBC Cymru, Boom Cymru a BBC Radio Cymru.

Meddai Ella "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar y prosiect hwn. I ddechrau mae'r sgript yn gyfareddol, ac mae pob darlleniad yn cynnig haen ychwanegol o ystyr ac yn taflu goleuni ar thema arall yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at ei harchwilio yn yr ymarferion. Gwnaed i mi deimlo mor gartrefol a chyfforddus yn y clyweliad, fe adawais i wir eisiau gweithio gyda'r bobl greadigol anhygoel yma ac rwy'n teimlo'n lwcus iawn fy mod wedi cael y rôl."

Yr actor a'r cyfarwyddwr theatr Daniel Lloyd fydd yn chwarae rhan Daf. Mae gwaith Daniel yn cynnwys nifer o gynyrchiadau ar gyfer Theatr Clwyd ac mae hefyd yn rhan o Wet Look 4 Stories sydd ar y gweill ar gyfer Blacklight/Channel 4. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos yng nghyfres 4 o Brassic SKY ONE ac yn chwarae rhan Mered yn ffilm newydd Roger William, Y Sŵn ar gyfer S4C, wedi'i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones.

Meddai Daniel "Dwi wrth fy modd yn cael chwarae rhan Daf yn Deuce. I mi, mae'n ddrama hynod ddiddorol am gost boenus gosod uchelgais a llwyddiant uwchlaw popeth mewn bywyd - hyd yn oed ar draul ein hiechyd. Rhywbeth y gall cymaint ohonom uniaethu ag ef. Mae'n drafodaeth o'r galon rhwng tad a merch; y ddau yn cael eu gorfodi i wynebu eu marwoldeb eu hunain, eu dewisiadau a'u blaenoriaethau, eu perthynas, eu nodweddion cyffredin - da a drwg, a'u gofidiau. Beth fydden ni'n ei ddweud wrth y rhai rydyn ni wedi eu caru a'u colli? Mae'n her fawr i fynd i'r afael â rôl fel hyn ac rydw i mor falch ei fod ar gael i gynulleidfaoedd ei fwynhau yn Gymraeg ac yn Saesneg."

Gareth John Bale, sy'n fwyaf adnabyddus am ei brif ran yn sioe lwyfan Grav, gyda fersiwn sgrin ar gyfer S4C wedi'i chreu ohoni yn ddiweddar a enillodd wobr BAFTA, a Mali Ann Rees sydd wedi ymddangos yn ddiweddar yng nghyfres 2 o The Pact ar gyfer BBC One, fydd yn chwarae rhan y sylwebwyr.

Bydd Mari Beard, actor ac awdur sydd wedi ennill BAFTA, yn chwarae rhan mam Alys, Bethan. Mae Mari wedi ymddangos mewn nifer o sioeau teledu a llwyfan, rhaglenni radio a phodlediadau.

Caiff DEUCE ei recordio yn Hoot Studios a'i olygu gan Rhys Young. Bydd y podlediad yn cael ei ryddhau ym mis Mai eleni a bydd ar gael i wrando arno a'i lawrlwytho drwy sawl platfform gan gynnwys Apple, Spotify ac Anchor yn ogystal â GPW, WGP a gwefan Theatr Illumine.

bottom of page