*
revealing stories hidden in plain sight
datguddio straeon cudd
TREMOLO
*** ENNILLODD Gareth Elis wobr Marc Beeby am y perfformiad debut gorau ac mae TREMOLO wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer drama sengl wreiddiol orau yng Ngwobrau BBC Audio Drama 2023!***
Harri: Gareth Elis
Awdur: Lisa Parry
Cyfarwyddwr: Zoë Waterman
Cyfansoddwr a Thelynor: Eira Lynn Jones
Golygu sain a dylunio: Rhys Young ar gyfer Stiwdios Hoot
Dramodydd a chyfieithu i'r Gymraeg: Branwen Davies
Cerddoriaeth ychwanegol: Drwy Dy Lygid Di, ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan Yws Gwynedd
Mae Tremolo yn ddrama bodlediad a gynhyrchwyd gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Genetics Society. Mae'n adrodd hanes Harri - bachgen 18 oed gyda'i holl fywyd o'i flaen, ond sy’n darganfod bod ei fam wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer teuluol cynnar a bod ganddo ef a'i chwaer Gwenllian siawns o 50 y cant o etifeddu'r clefyd. A ddylai gymryd prawf i gael gwybod?
Yn ddrama wedi'i anelu'n bennaf at gynulleidfaoedd ifanc 16+ oed, ond ar gael i bawb, mae Tremolo ar gael i wrando arni a’i lawrlwytho drwy lwyfannau gan gynnwys Spotify, iTunes ac AM. Mae'r ddrama ar gael yn Gymraeg a Saesneg.