*
revealing stories hidden in plain sight
datguddio straeon cudd
CYFLEOEDD GWAITH
GALWAD CASTIO
Première byd Tremolo, drama glywedol 30 munud o hyd i'w rhyddhau fel podlediad ar bob platfform podlediad mawr a'i farchnata'n uniongyrchol i ddisgyblion ysgol 16+ ledled Cymru. Cynhyrchir y prosiect hwn gan Theatr Illumine, mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg a Chymdeithas Galton.
Mae'n ddrama dyner sy'n procio'r meddwl ac yn archwilio effaith diagnosis o glefyd Alzheimer sy’n dechrau mewn pobl ifanc gyda hanes o Alzheimer yn y teulu, a'r materion cymdeithasol-foesegol sy'n ymwneud â phrofi genetig.
Drama un dyn yw hon. Bydd yr actor yn chwarae rhan Harri a'r bobl amrywiol y mae'n dod i gysylltiad â nhw.
Bydd y podlediad yn cael ei recordio yn Saesneg ac yn Gymraeg felly RHAID I CHI FOD YN GALLU SIARAD CYMRAEG A SAESNEG YN RHUGL.
Dyddiadau: ymarferion 10-13 Ionawr, recordio 14-15 Ionawr.
Lleoliad: rhaid bod yr ymgeisydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd
Harri (gwryw, 18 oed, rhaid i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg)
Mae Harri yn garedig, hyderus, cadarnhaol, empathig ac yn barod i fentro mewn bywyd. Mae'n bwriadu bod yn ddoctor. Yna mae'n cael newyddion sy'n codi cwestiwn ynglŷn â'r dyfodol hwnnw. Mae'n petruso. Mae'n agored i niwed, yn gariadus ac yn awyddus i lwyddo ond mae ar goll.
Cyflwynwch eich cais trwy Spotlight. Os nad oes gennych fynediad at Spotlight, anfonwch CV a’ch llun at lisa.illuminetheatre@gmail.com. Os gwelwch yn dda, PEIDIWCH Â GWNEUD Y DDAU.
Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth ac yn annog ceisiadau gan y mwyafrif byd-eang.
Dyddiad cau: Hanner dydd, 5 Tachwedd, 2021.
CYFANSODDWR
Sefydliad: Theatr Illumine
Yn edrych am: Gyfansoddwr
Gyda sgiliau/profiad arbennig: mae profiad blaenorol o gyfansoddi ar gyfer drama yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Ffi: £675
Y swydd: Cyfansoddi cytgan fydd yn cael ei hail-adrodd trwy'r darn a thrwy'r rhestr cydnabyddiaethau ar gyfer première byd Tremolo, drama fer (tua 30 munud o hyd) gan Lisa Parry, sy’n cael ei recordio ym mis Ionawr a'i rhyddhau fel podlediad ar bob platfform podlediad mawr, a'i farchnata'n uniongyrchol i ysgolion ledled Cymru. Dylai'r gerddoriaeth fod ar gyfer telynor sydd wedi cyrraedd oddeutu safon gradd 7/8.
Mae Tremolo yn ddrama dyner sy’n procio’r meddwl ac yn archwilio effaith diagnosis o Glefyd Alzheimer sy’n dechrau mewn pobl ifanc gyda hanes o Alzheimer yn y teulu (eFAD), a'r materion cymdeithasol-foesegol sy'n ymwneud â phrofi genetig. Mae'n canolbwyntio ar Harri, sy’n 18 oed. Mae ei fam wedi cael diagnosis o glefyd Alzheimer, ac mae Harri’n ystyried cael profion genetig ac yn ceisio prosesu ei diagnosis hi.
Mae'r chwaer yn y stori yn chwarae'r delyn bedal (i oddeutu safon gradd 7), gyda thremolo yn adlewyrchu ei agosrwydd at Harri. Mae hwn yn drosiad canolog allweddol yn y darn a bydd cyfansoddiad gwreiddiol o gytgan fydd yn cael ei hail-adrodd yn cael ei defnyddio trwy gydol y ddrama ac yn ystod y rhestr cydnabyddiaethau.
Rhaid i chi fod o Gymru neu wedi’ch lleoli yng Nghymru.
Cynhyrchir y prosiect hwn gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg a Chymdeithas Galton.
I wneud cais, anfonwch:
1. CV
2. Llythyr eglurhaol byr, neu fideo at 3 munud o hyd
3. Enghraifft o'ch gwaith cyfansoddi - naill ai sgôr gerddorol neu recordiad
at: lisa.illuminetheatre@gmail.com
Hefyd, llenwch ffurflen cyfle cyfartal a geir yma.
Gwahoddir rhestr fer o ymgeiswyr i gyfweliad byr dros Zoom gyda Zoe Waterman (cyfarwyddwr) a Lisa Parry (dramodydd).
Rhoddir gwybod i bob ymgeisydd am ganlyniad eu cais.
Dyddiad cau: Hanner dydd, 8 Tachwedd, 2021.