top of page

Rydym yn creu theatr gyda ysgrifennu newydd wrth ei wraidd, theatr sydd yn datgelu straeon cudd– straeon amlwg ond bod prysyrdeb yn ein hatal i dalu sylw iddynt. Ein nod ydy magu trafodaeth, creu theatr i bawb ac apelio i gynulleidfa sydd wedi eu hanwybyddu. Rydym yn ymrwymo i greu theatr newydd, cyffrous a pherthnasol gan gynnwys artistiaid a chymunedau wrth greu.

 

Rydym yn ddibynnol ar grantiau, nawdd a rhoddion i greu’r gwaith – heb gymorth unigolion fel chi, byddai dim modd i ni fodoli fel sefydliad, nac i greu y gwaith rydym yn ei greu. Mae ein cynllun cyfeillion yn ffordd effeithiol i chi fod yn rhan ac i fagu cysylltiad â’r cwmni. 

Mae tri math o aelodaeth - ebostiwch ni am fwy o wybodaeth ar sut i ymaelodi - neu mae modd gwasgu botwm 'Donate' i wneud cyfraniad unigol trwy PayPal.

PayPal ButtonPayPal Button

CANWYLL

 

£20 y flwyddyn

'How far that little candle throws his beams! So shines a good deed in a weary world,’ geiriau Shakespeare a phwy ydym ni i ddadlau?

Gyda’r math yma o aelodaeth fe gewch chi  ebost misol gan Illumine a diolch twymgalon wedi ei argraffu yn ein rhaglen.

HALOGEN

 

£50 y flwyddyn

Elmer Fridrich wnaeth greu y bwlb halogen. Roedd yn gyfarwydd â harddwch cydweithredu. Yn ei eiriau ei hun 'Without the iodine, the bulb burned black, but when we added the iodine, it was sparkling clear. It was a beautiful light.' Ymunwch â Illumine â halogen!

 

Gyda’r math yma o aelodaeth fe gewch chi ebost misol, diolch twymgalon a thocyn am ddim ar gyfer pob cynhyrchiad Illumine. 
 

SPOTLIGHT 

£100 y flwyddyn

Dywedodd y model o Ethiopia Liya Kebede ‘the spotlight can change everything’, ac mae hynny’n wir iawn am y math yma o aelodaeth. Mae noddwyr Spotlight yn ein galluogi i ddatblygu mwy o brosiectau, cynhyrchu may o ddramâu a gweithio gyda mwy o artistiaid a chymunedau, yn creu gwaith perthnasol.

 

Mi fyddwn yn anfon ebost misol i chi, argraffu diolch yn y rhaglen, cynnig dau docyn am ddim i bob cynhyrchiad a rhoi cyfle i chi gyfarfod y cast. 

bottom of page